Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2015 |
|
||||
Amser: |
13.00 - 14.30 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(4)2015(10) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd) Peter Black AC Sandy Mewies AC Rhodri Glyn Thomas AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nicola Callow, Director of Finance Nerys Evans, Pennaeth y Gwasanaeth, Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau, Pennaeth y Gwasanaeth, Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau Sulafa Thomas, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Eric Gregory, Cynghorwr Annibynnol
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.
1.2 Datganiad o fuddiant
Ni chafwyd datganiad o fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd bod cofnodion 25 Mehefin yn gofnod cywir.
2 Cyllideb Ddrafft 2016-17
Cyflwynodd Nicola Callow ddrafft cyntaf cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2016-17 i’r Comisiynwyr.
Croesawodd y Comisiynwyr y ddogfen, yr oeddent yn teimlo ei bod yn adlewyrchu’n dda strategaeth y gyllideb a gytunwyd ganddynt ym mis Ebrill.
Ffocws dogfen gyllideb 2016-17 yw:
• Cefnogi’r galwadau cynyddol a wynebir gan y Cynulliad, gan gynnwys y rhaglen gynyddol o waith deddfwriaethol;
• Darparu rhaglen newydd ac estynedig o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer yr Aelodau, gan gynnwys Aelodau Cynulliad newydd a’r rhai sy’n dychwelyd, yn seiliedig ar werthusiad o ganlyniadau DPP hyd yma;
• Cefnogi newid cyfansoddiadol, y disgwylir iddo ddigwydd ar raddfa fawr yn sgil cyhoeddiad Deddf Cymru 2014 a chyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi 2015;
• Parhau â gwaith ymgysylltu a hyrwyddo’r Comisiwn, gyda phwyslais ychwanegol i adlewyrchu’r datblygiadau cyfansoddiadol newydd;
• Gwerth am arian - mae gan y Comisiwn record gref o ran cyflawni gwerth am arian law yn llaw â’i nodau a’i flaenoriaethau strategol, a byddwn yn awyddus i adeiladu ar hyn o ddechrau’r Pumed Cynulliad;a
• Datblygu gwasanaeth technolegol – parhau i newid a gwella Gwasanaethau’r Cynulliad a’r ffyrdd rydym yn cefnogi Aelodau’r Cynulliad i gyflawni eu rolau.
Cytunodd y Comisiynwyr, yn ogystal â diweddaru’r drafft i adlewyrchu canlyniad Adolygiad o Wariant y DU a’r Gyllideb, y byddai’n bwysig bod y drafft nesaf yn cynnwys llawer o ddiagramau a darluniau er mwyn sicrhau bod yr un lefel o eglurder a gyflwynwyd yng nghyllideb 2015-16 yn cael ei gyflawni eto eleni.
Cytunodd y Comisiwn i dderbyn dogfen wedi’i diweddaru i’w hystyried ym mis Medi, cyn bod angen i’r gyllideb ddrafft gael ei gosod.
3 Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cyflwyno ei adroddiad blynyddol i’r Comisiwn bob blwyddyn. Eric Gregory, sef Cadeirydd y Pwyllgor, a gyflwynodd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2014-15 i’r Comisiynwyr a thynnodd sylw at feysydd allweddol y mae’r Pwyllgor wedi canolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn. Rhoddodd hefyd amlinelliad o’r meysydd y mae’r Pwyllgor yn bwriadu canolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod.
Gofynnodd y Comisiynwyr am fater diweddar a godwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â chofnodi gwyliau Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad yng nghyfrifon y Comisiwn. Maent yn cefnogi’r safbwynt a fynegwyd gan swyddogion.
Dywedodd y Comisiynwyr pa mor werthfawr yw hi i gael mewnbwn gan gynghorwyr annibynnol y Comisiwn, a’u bod yn teimlo bod y safbwynt allanol yn ddefnyddiol iawn.
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad annibynnol.
4 Amnewid teledu cylch cyfyng
Ystyriodd y Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi’r gofyniad i amnewid y system teledu cylch cyfyng.
Roedd y Comisiwn yn cefnogi’r angen i wneud y gwaith a chytunwyd y dylid cyflwyno achos busnes manwl iddynt ym mis Medi.
5 Penodi Aelodau y Bwrdd Taliadau
Bydd penodiadau aelodau presennol y Bwrdd Taliadau yn dod i ben ar 20 Medi 2015. Cyflwynwyd papur i’r Comisiynwyr yn nodi proses a chanlyniadau’r ymarfer recriwtio a dewis diweddar i ddewis Cadeirydd ac aelodau newydd i’r Bwrdd.
Mae penodiadau i’r Bwrdd Taliadau yn cael eu gwneud gan y Comisiwn yn unol â Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. Soniodd y Comisiynwyr am amrywiaeth drawiadol o brofiad ac arbenigedd y pum unigolyn a gafodd eu dewis.
Ar ôl bodloni eu hunain na ddylai neb o’r rhai oedd yn cael eu penodi gael eu gwahardd rhag bod yn aelodau’r Bwrdd, penododd y Comisiwn:
Bydd y penodiadau newydd yn dechrau o 21 Medi 2015.
Cytunodd y Comisiwn i gyhoeddi’r papur a’i anfon at arweinwyr y pleidiau a holl Aelodau’r Cynulliad.
6 Unrhyw fater arall
Trafodwyd a chytunwyd y materion canlynol drwy ohebiaeth yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn:
• Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2014-15
• Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2014-15
• Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2014-15.
Hwn oedd cyfarfod olaf y Comisiwn cyn toriad yr haf. Bydd y cyfarfod nesaf ar 17 Medi pryd y bydd y Comisiynwyr yn ystyried dogfen gyllideb wedi’i diweddaru.